top of page

 

Bydd yr anrheg Perffaith hon yn siwr o wneud diwrnod unrhyw un! Mae set anrheg Ysgawen yn cynnwys halen bath wedi'i drwytho ag olewau hanfodol, llwy bren, cadachau cotwm organig a sebon cartref.

Dewiswch o blith ein hystod o sebonau a halen bath. Gwnewch gymysg personol i greu anrheg unigryw.

Gwneir pob sebon a balm gyda chynhwysion naturiol ac olewau hanfodol gogoneddus.

SEBON

  • Leim a lafant
  • Rhuddos ddu a hadau pabi
  • Camri a chelp
  • Lemon a penlas yr yd
  • Blodyn Oren
  • Lafant a hadau pabi
  • Danadl a Pupur-fintys
  • Te Gwyrdd a Grawnffrwyth
  • Patswili a Rhosmari
  • Sberfint a Lafant
  • Melyn Mair a Hadau Pabi

Set Anrheg Ysgawen

£27.00Price
  • Wedi'i wneud â llaw

    Yn cael ei wneud a'i anfon o fusnes bach yng Nghymru.

    100% naturiol, dim gwastraff, deunydd pacio di-blastig, ailgylchadwy neu gompostiadwy.

    Deunyddiau - Olew Olewydd, Olew Cnau Coco, Menyn Shea, pigmentau naturiol neu glai ac olewau hanfodol.

    Yn rhydd rhag - creulondeb anifeiliaid, olew palmwydd, SLS, Parabens.

    Adroddiad diogelwch cynnyrch cosmetig wedi'i ardystio.

    Nid yw olew hanfodol y halen bath yn achosi niwed i fywyd dyfrol.

    Pwysau - mae pob sebon yn pwyso isafswm o 100g

    Gweler y disgrifiad sebon unigol ar ein gwefan am ragor o fanylion am yr anrheg berffaith hon!

    Mae pob sebon wedi'i lapio mewn papur botaneg sydd wedi'i wneud â llaw. O amgylch hyn mae cerdyn ar gyfer labelu. Yna caiff ei roi mewn bocs cardfwrdd compostadwy gyda llenwad gwlân pren wedi'i drwytho â botaneg. Mae'r halen bath yn dod mewn tun alwminiwm ailgylchiadwy. Dim gwastraff ac felly'n cyd-fynd â'n safonau ecogyfeillgar.

    Dosbarthu drwy'r Post Brenhinol.

© 2023 Cynllun y wefan ganNia Sian Dylunio

bottom of page