top of page

Uchafbwyntiau - Wedi'i gwneud â llaw

Wedi'i wneud a'i anfon o fusnes bach yng Nghymru.

Dim gwastraff, pecynnu di-blastig, ailgylchadwy neu gompostiadwy.

Deunyddiau - Olew Olewydd, Olew Cnau Coco, Menyn Shea, pigmentau naturiol neu glai ac olewau hanfodol.


Disgrifiad

Mae gan y sebon trawiadol yma frithwaith glas sy'n eistedd ar sylfaen gwyn pur. Mae gan y sebon naturiol hwn arogl adfywiol coeden-de sydd yn cael ei ysgafnu gan melusrwydd olew hanfodol oren a ffresni olew hanfodol camri. Mae'n cynnwys clai caolin sy'n helpu i waredu gormodedd o olew ac amhureddau o'r croen. Ar ei ben, mae cymysgedd o flodau rhosyn, hibisgws a jasmin.


Fe'i gwneir trwy broses oer sy'n cynhyrchu glyserin fel sgil-gynnyrch.

Yn pwyso Isafswm o 100g

Mae wedi'i lapio mewn papur wedi'i wneud â llaw ac wedi'i drwytho â botaneg. Mae'r cynnyrch mewn bocs cardfwrdd y gellir ei gompostio gyda llenwad gwlân pren wedi'i drwytho â botaneg, felly dim gwastraff, sy'n cyd-fynd â'n safonau eco-gyfeillgar.

 

 

Sebon coeden-de, oren a chamri

£6.00Price
  • Rhybuddion

    Defnydd allanol, lleol yn unig.

    Mae rhai olewau hanfodol yn cynnwys alergenau hysbys, yn yr achosion hyn mae nhw wedi'i rhestru ar y labeli ac ar y wefan o dan cynhwysion.

    Darllenwch y rhestr cynhwysion bob amser cyn defnyddio'r cynnyrch hwn.

    Cadwch ymhell o lygaid a philen ludiog.

    Cadwch allan o gyrraedd plant.

    Os bydd llid yn digwydd, diweddwch ddefnydd.

© 2023 Cynllun y wefan ganNia Sian Dylunio

bottom of page