Uchafbwyntiau - Wedi'u gwneud â llaw
Wedi'i wneud a'i anfon o fusnes bach yng Nghymru.
Dim gwastraff, pecynnu di-blastig, ailgylchadwy neu gompostiadwy.
Deunyddiau - papur wedi'i ailgylchu, dŵr, botaneg .
Disgrifiad
Mae'r papur hwn yn cael ei wneud mewn ffordd traddodiadol gan ddefnyddio techneg “Frame and Deckle”. Mae'r papur wedi'i wneud o bapur gwastraff sgrap, ffibrau planhigion fel banana, seleri a tsili, hadau, petalau a botanegau eraill. Mae'r papur yn cael ei rwygo, ei bwlpio a'i gyfuno, ac yna ei ailffurfio a'i sychu. Mae hyn yn rhoi lliw unigryw a theimlad gweadog i'r papur. Bydd pob bwndel yn wahanol a bydd pob tudalen o fewn y bwndel yn amrywio o ran lliw a gwead. Bydd y pecyn yn cynnwys nifer o ddalennau gyda hadau a botaneg wedi'i gwasgu mewn i'r papur. Bydd trwch a lliw hefyd yn amrywio gan fod pob dalen yn hollol unigryw. Efallai y bydd llythrennau yn ymddangos o fewn rhai dalennau o ganlyniad i'r papur gwreiddiol a ddefnyddiwyd yn ystod y broses ailgylchu.
Swm - 10 tudalen fesul bwndel
Defnyddiau
Gellir defnyddio’r papur hwn mewn amryw o brosiectau. Er enghraifft; gwahoddiadau, dyddlyfr personol, prosiectau crefft, gosod lleoedd bwrdd, cardiau, gwaith celf, collages, ysgrifennu creadigol, tagiau anrheg, darlunio, ffotograffiaeth, argraffu â llaw, argraffu traed babi.
Gofal
Efallai na fydd y papur yn mynd trwy argraffydd digidol oherwydd trwch a defnydd y botaneg. Efallai y bydd angen trwsio'r papur cyn defnyddio inc a chwils gan y gallai waedu ac amsugno'r inc. Cadwch y papur yn sych oherwydd gall lleithder achosi i'r papur blygu neu gyrlio.
Pecynnu
Bydd pob bwndel yn cael ei becynnu mewn blwch cardbord Brown Kraft heb unrhyw wastraff, i atal difrod, sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd eco-gyfeillgar.
Papur Botanegol wedi'i ailgylchu wedi'i wneud â llaw yn amrywio o ymyl dec A4
Derbynnir dychweliadau os nad ydych yn fodlon â'ch cynnyrch, byddwn yn eich ad-dalu o fewn 28 diwrnod.
Os oes problem gyda'r cynnyrch, gadewch i ni wybod drwy anfon e-bost at: Gwyneth@bocssebon.cymru.
Cofiwch gynnwys:
- Enw’r eitem sy’n cael ei dychwelyd, fel y disgrifir ar y wefan
- Y rheswm dros eich dychwelyd
Dychwelwch yr eitem mewn cyflwr gwerthadwy yn ei becyn gwreiddiol wedi’i selio a’i ddiogelu.
Dylid anfon dychweliadau i:
Llys Meredydd,
Waunfawr,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL554YY.
Er budd hylendid, ni allwn dderbyn rhai cynhyrchion yn ôl.
Mae genddym yr hawl i wrthod dychweliadau nwyddau sydd wedi'u hagor a'u defnyddio gan gynnwys sebon a chynhyrchion gofal croen.
Gofynwn yn garredig i chi becynnu'r eitemau yn ddiogel gan ail ddefnyddio unrhyw ddeynydd amddiffynnol i atal difrod.
Gellir ddychwelyd archebion y DU yn rhad ac am ddim.
Canslo archeb
Mae gennych yr hawl i ganslo eich archeb. I wneud hyn, rydym angen hysbysiad e-bost. Yn ol ein polisi, bydd gennych 14 diwrnod o'r amser prynu nes ar ôl derbyn nwyddau i ganslo'ch archeb a dychwelyd eich nwyddau mewn cyflwr gwerthadwy er mwyn derbyn ad-daliad.
Ad-daliadau
Dylid cyfeirio ceisiadau am ad-daliad at: Gwyneth@bocssebon.cymru
Cyn gynted ag y byddwn wedi derbyn eich nwyddau a ddychwelwyd yn eu cyflwr gwreiddiol, byddwn yn prosesu eich ad-daliad, gall hyn gymryd hyd at 28 diwrnod busnes cyn i'r ad-daliad gael ei gwblhau.
Os cewch unrhyw anawsterau, cysylltwch drwy e-bost.