Trefniadau blodau sych mewn ffrâm 8x6 , wedi'i osod ar bapur botanegol wedi'i wneud â llaw.
Mae'r fframiau blodau unigryw hyn yn syml a hardd. Mae pob ffrâm yn cynnwys trefn gwahanol o flodau, hadau, gweiriau a pherlysiau sydd naill ai'n cael eu tyfu adref wrth odre Eryri neu'n cael eu cymryd o flodau gwastraff wedi'u hailgylchu. Mae'r blodau'n cael eu gosod ar bapur wedi'i wneud â llaw sy'n cynnwys ffibrau planhigion fel croen banana, seleri a tsili. Mae'r cyfuniad yn creu ymddangosiad syml ond unigryw ac yn rhoi gwead, lliw bywiog a diddordeb i'r cyfansoddiad.
Disgrifiad
Mae'r fframiau botanegol sych yn bleser i unrhyw un sy'n gwerthfawrogi harddwch byd natur. Mae'r broses sychu yn cloi lliwiau yn naturiol, gan gadw eu swyn. Bydd argaeledd amrediad y blodau yn dibynnu ar y tymor a bydd y wefan yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.
Defnyddiau
Mae'r fframiau yn gwneud anrhegion hardd ac yn edrych yn effeithiol ar ben ei hyn neu fel par ar waliau. Mae nhw'n creu wal nodwedd botanegol gwych ac yn edrych yn dda pan fyddant wedi'i gosod mewn silff lyfrau. Gellir eu anrhegu fel rhan o set ochr yn ochr â chynhyrchion eraill â thema botanegol o'n gwefan.
Maint fframiau: 8 x 6 modfedd
Mae pob ffram yn unigryw ac yn gallu amrywio o ran lliw a chyfansoddiad ac felly'n gallu edrych yn wahanol i llun y wefan.
Dewiswch o'n hamrywiaeth o flodau:
Rhodanthe
Glixia
Lafant
Fframiau Blodau Sych Lafant
Gofal
Cadwch allan o olau haul uniongyrchol oherwydd bydd cannu naturiol yn digwydd.
Gall fframiau blodau naturiol bylu lliw dros amser.
Pecynnu
Wedi ei cynnwys mewn blwch cardfwrdd 'Kraft' brown gyda phecynnu gwlân pren i'w hamddiffyn rhag difrod. Ymdriniwch a'r gwydr yn ofalus a chadwch allan o gyrraedd plant. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gwerthoedd dim gwastraff, eco-gyfeillgar.